Bwrsariaeth Astudio drwy’r Gymraeg

Bwrsariaeth Astudio drwy’r Gymraeg; Darlithydd Gymraeg; Darlith Gymraeg

Hyd at £400 y flwyddyn - Bwrsariaeth i annog siaradwyr Cymraeg i ddilyn cyfran neu’r cwbl o’u cwrs drwy’r Gymraeg.

Sut mae gwneud cais?

Does dim rhaid gwneud cais. Bydd pawb sy’n cofrestru ar fodiwlau cymwys yn derbyn y taliad yn awtomatig. Bydd manylion y modiwlau cymwys ar gael pan gofrestrwch ar ddechrau pob blwyddyn academaidd.

Beth yw gwerth yr Ysgoloriaeth?

Ar gyfer y flwyddyn sy'n dechrau ym Medi 2025:

  • £200 i fyfyrwyr sy'n astudio 5 – 24 o gredydau trwy gyfrwng y Gymraeg
  • £250 i fyfyrwyr sy'n astudio 25-44 o gredydau trwy gyfrwng y Gymraeg
  • £300 i fyfyrwyr sy'n astudio 45-64 o gredydau trwy gyfrwng y Gymraeg
  • £350 i fyfyrwyr sy'n astudio 65-84 o gredydau trwy gyfrwng y Gymraeg
  • £400 i fyfyrwyr sy'n astudio 85+ o gredydau trwy gyfrwng y Gymraeg

Sut fyddaf i’n cael fy nhalu?

Cewch eich talu yn syth i’ch cyfrif banc ar ddechrau mis Mawrth ym mhob blwyddyn pan fyddwch yn gymwys.

 

Telerau ac Amodau Bwrsariaeth Astudio drwy'r Cyfrwng Cymraeg

 

OSZAR »