Cydnabyddiaeth newydd am waith gwrth-hiliol y Brifysgol

02 Mehefin 2025

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi llwyddo i gyrraedd safon Efydd y Siarter Cydraddoldeb Hil, a ddyfernir gan AU Ymlaen, am ei gwaith yn gwella cynrychiolaeth a chynhwysiant i bobl o leiafrifoedd ethnig.c

Academydd i gadeirio is-banel nodedig sy'n edrych ar ragoriaeth academaidd y DU

04 Mehefin 2025

Mae academydd o Brifysgol Aberystwyth wedi'i benodi i gadeirio is-banel arbenigol a fydd yn asesu rhagoriaeth ymchwil y sector addysg uwch yn y DU.

Cynhadledd heddwch yn trafod ‘byd di-ryfel’

05 Mehefin 2025

Mae’r Prif Weinidog wedi agor cynhadledd heddwch arbennig ym Mhrifysgol Aberystwyth a drefnwyd i drafod sut gall Cymru gyfrannu tuag at fyd di-ryfel.

Wynebau ceffylau yn adrodd cyfrolau - astudiaeth newydd yn mapio’u hiaith wyneb gyfoethog

05 Mehefin 2025

Mae ymchwil newydd wedi datgelu bod gan geffylau "iaith" wyneb llawer mwy soffistigedig a llawn mynegiant na’r hyn a ystyriwyd yn flaenorol.

Penodi academydd o Brifysgol Aberystwyth i rôl allweddol yn y sector gofal iechyd

09 Mehefin 2025

Mae academydd o Brifysgol Aberystwyth wedi’i benodi’n llysgennad ac eiriolwr dros ymchwil iechyd a gofal yng Nghymru mewn asiantaeth fawr a gefnogir gan Lywodraeth Cymru.

Mynd i'r afael â heriau mwyaf argyfyngus cymdeithas

11 Mehefin 2025

Bydd academyddion yn ymchwilio i sut mae dinasyddion, sefydliadau cymdeithas sifil a llunwyr polisïau'n cydweithio i fynd i'r afael â rhai o broblemau mwyaf dybryd cymdeithas.

Keir Starmer yn dweud y dylai mewnfudwyr ddysgu Saesneg er mwyn integreiddio. A yw’n bod yn deg?

10 Mehefin 2025

Wrth ysgrifennu yn The Conversation, mae Dr Huw Lewis o’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol a'i gyd-awduron yn trafod moeseg integreiddio ieithyddol, a sut y gall tegwch olygu bod rhwymedigaeth ar lywodraeth neu gymdeithas, yn ogystal ag ar fewnfudwyr.

Cadair Eisteddfod ffoadur rhyfel yn arddangosfa newydd Aberystwyth

11 Mehefin 2025

Bydd Cadair Eisteddfod a wnaed gan ffoadur o Wlad Belg yn y Rhyfel Byd Cyntaf yn cael ei harddangos yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth y mis hwn yn rhan o arddangosfa newydd am effaith rhyfel a dadleoli yng Nghymru.

Mae Putin wedi'i orfodi i anfon y rheiny sydd wedi'u hanafu yn ôl i ymladd ac i gynnig cyflogau milwrol enfawr wrth i Rwsia ddioddef miliwn o anafiadau

12 Mehefin 2025

Mewn erthygl yn The Conversation mae Dr Jenny Mathers o’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn trafod yr effaith y mae’r rhyfel yn Wcráin yn ei chael ar Rwsia, sy’n wynebu bron i filiwn wedi'u hanafu, gan orfodi tactegau recriwtio enbyd ac ail-lunio ei chymdeithas, ei lluoedd arfog, a’i gwleidyddiaeth.

Gwobr o fri i fath ‘eithriadol’ o geirch a fridiwyd yn Aberystwyth

13 Mehefin 2025

Mae’r math mwyaf poblogaidd o geirch yn y DG, a fridiwyd ym Mhrifysgol Aberystwyth, wedi cipio un o wobrau uchaf ei bri y diwydiant.

Canmol cymorth gwasanaethau brys i baratoi nyrsys newydd

17 Mehefin 2025

Mae Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth wedi diolch i’r gwasanaethau brys lleol am eu cymorth gydag efelychiad o ddigwyddiad o bwys er mwyn hyfforddi ei myfyrwyr nyrsio.

A all Prydain fod yn genedl o dyfwyr te? Mae gwyddonwyr yn dweud y gall – ac y gallai hyd yn oed fod yn dda i’ch iechyd

18 Mehefin 2025

Mewn erthygl yn The Conversation mae Dr Amanda Lloyd a'r Athro Nigel Holt yn awgrymu y gellir tyfu te yn y DU – ac y gallai fod yn dda i bobl a'r blaned.

Rhannu straeon heddwch ar Ddiwrnod Ffoaduriaid y Byd

20 Mehefin 2025

Mae menter newydd yn defnyddio straeon digidol i ystyried a rhannu profiadau byw’r rheini sydd wedi mudo dan orfod ac sydd bellach yn byw yng Nghymru.

Canolfan cywarch diwydiannol newydd i yrru arloesedd gwyrdd

19 Mehefin 2025

Mae canolfan newydd sydd wedi’i sefydlu i ddatgloi potensial cywarch diwydiannol wedi'i lansio ar Gampws ArloesiAber Prifysgol Aberystwyth.

Cwilt cyfeillgarwch ffoaduriaid yn plethu cysylltiadau newydd yn Aberystwyth

20 Mehefin 2025

Mae cwilt cyfeillgarwch unigryw yn cael ei blethu at ei gilydd mewn cydweithrediad creadigol yng nghanol dathliadau Wythnos Ffoaduriaid Aberystwyth.

OSZAR »